Ymgysylltu

Yn ystod yr wythnosau olaf, cyn genedigaeth babi, bydd y pen yn symud tuag i lawr i ‘ymgysylltu’ â phen uchaf y pelfis. Yn y pendraw bydd y babi yn gwneud ei ffordd drwy’r pelfis i gael ei eni i’r byd. Fel academyddion/artistiaid sydd â diddordeb mewn ymagwedd ryngddisgyblaethol rydym yn eich gwahodd i ‘ymgysylltu’ â ni yng ngeni’r ymchwil perfformiadol hwn. Rydym yn eich gwahodd i fod gyda ni, i fod mewn perthynas â ni, wrth i ni feithrin y project hwn i fywyd.

Wrth i ni eni’r project hwn i’r byd rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar y daith honno, i herio ein safbwyntiau, ymestyn ein meddwl, agor ein llygaid i bosibiliadau yr hyn allai ddod, a sut y gallai dyfu i gyrraedd ei lawn botensial. Felly, rydym yn gofyn, a ydych chi:

  • Yn artist/academydd neu’n weithiwr proffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau gofal a’ch gwaith yn ymgysylltu â’r famol?
  • Yn teimlo y gallai astudiaeth o’r famol drwy berfformiad gynnig rhywbeth gwerthfawr i’ch proffesiwn?
  • Yn dymuno cyfrannu darn byr o ysgrifennu sy’n adlewyrchu persbectif unigryw ar y famol i’w gyhoeddi ar ein gwefan?
  • Wedi gweld neu wedi creu perfformiad mamol y teimlwch y dylen ni wybod amdano?
  • Cynnal digwyddiad â thema famol yr hoffech i ni gyflwyno ynddo?

Os mai YDW yw’ch ateb i unrhyw un neu rai o’r cwestiynau hyn, rydym yn eich gwahodd i YMGYSYLLTU!

Os teimlwch fod gennych rywbeth i’w gyfrannu at y project ymchwil hwn, cysylltwch ag aelod o’r TÎM YMCHWIL.