
Rydyn ni’n dîm academaidd o Artistiaid/Ymchwilwyr sydd wedi ymrwymo i ddod â damcaniaeth foesegol ffeministaidd, famol i galon ein harferion a’n meddwl beirniadol. O’n gwahanol safbwyntiau rydyn ni’n cydweithio ar y project ymchwil hwn fel modd o gwestiynu, hwyluso a chynhyrchu gwybodaeth sy’n datgelu mewnwelediadau ar y famol fel y cyflwr byw o fod yn fam, gan wneud cyfraniad unigryw i’r maes astudio.
Dr Emily Underwood-Lee – Prif Ymchwilydd
emily.underwood-lee@southwales.ac.uk
01443 668547
Mae Emily yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Mae hi hefyd yn ymarferydd perfformio, ac yn fam i ddau o blant. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar amlygu straeon personol gan fenywod na chlywir yn aml, y mae’n bosibl bod eu lleisiau wedi’u gwthio i’r ymylon neu eu hanwybyddu. Mae’n ystyried y gwahaniaeth y gall clywed y storïau hyn ei wneud ym maes polisi, ymarfer a bywyd bob dydd i’r adroddwr a’r gwrandäwr. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn straeon am y famol, rhywedd, iechyd/salwch a threftadaeth. Mae’n codi cwestiynau ynghylch sut mae rhywedd yn cael ei greu a sut y gall y corff benywaidd gael ei gyflwyno a’i gynrychioli mewn perfformiadau. Mae ei pherfformiadau diweddar wedi canolbwyntio ar sut i gyflwyno’r corff ôl-driniaethol y mae canser wedi gadel ei ôl arno, straeon a phrofiadau rhianta, adrodd straeon ac iechyd/salwch, a pherfformio’r famol.
www.emilyunderwoodlee.wordpress.com
Dr Lena Šimić – Cyd-Ymchwilydd
simicl@edgehill.ac.uk
01695 650794
Mae Lena yn Ddarllenydd mewn Drama ym Mhrifysgol Edge Hill, Ormskirk. Mae hi’n uniaethu fel mam/artist, ymarferydd perfformio trawswladol, actifydd celf, addysgydd ac ysgolhaig. Ar hyn o bryd mae Lena yn ymchwilio i berfformio cyfoes ac astudiaethau mamol. Mae Lena wedi cyflwyno ei hymarfer a’i hymchwil celf mewn amrywiaeth o gylchgronau academaidd (Performance Research, Contemporary Theatre Review, n.paradoxa, RiDE, Feminist Review, Studies in the Maternal) ac mewn amrywiol leoliadau a gwyliau celf. Mae Lena wedi cyhoeddi chwe llyfr artist gan gynnwys Maternal Matters and Other Sisters (2009), 4 Boys [for Beuys] (2016) a 10 The Institute for the Art and Practice of Dissent at Home (2019). Yn ddiweddar, mae hi wedi cyhoeddi drama Threee Conversations (2019) gyda’i phlant Neal a Sid ar gyfer Climate Change Theatre Action.
https://lenasimic.art/
Georgina Biggs – Cynorthwyydd Ymchwil
Mae Georgina’n gwneud PhD ym Mhrifysgol Royal Holloway. Mae ei thraethawd ymchwil The Voice of the Pelvis: A Menstrual Embodiment yn archwilio’r corff mislifol mewn hyfforddiant ôl-Grotowskiaidd i berfformwyr (corfforol). Hyfforddwyd Georgina mewn gwaith theatr ensemble o ddwyrain Ewrop gyda Song of the Goat Theatre, ac yn ddiweddarach bu’n ymwneud â gwaith symud, amgylcheddol, di-arddull Helen Poynor. Mae’r ddau ddylanwad hyn yn cyfuno yng ngwaith ei chwmni SheWolf sy’n archwilio’r rhyng-gysylltiadau rhwng tir, corff a llais. Mae gwaith SheWolf yn dilyn damcaniaeth foesegol famol o gyd-ddibyniaeth, gan ymestyn y ffurf ensemble i gynnwys y byd y tu hwnt i’r dynol fel aelod byw a gweithgar ohoni. Gan barchu gwerthoedd rhoi a derbyn gofal, mae’n ymarfer sy’n cael ei lywio gan yr amgylchedd a’r famol – gyda bod ‘mewn perthynas’ yn cael ei hyrwyddo fel rhywbeth sy’n ganolog i les y ddynol ryw.
www.shewolfspirit.com
Dr Jennifer Verson – Cynorthwyydd Ymchwil
Versonj@edgehill.ac.uk
Mae ymchwil Jennifer yn dwyn ynghyd ei gwaith fel ymarferydd perfformio, gyda diwinyddiaeth gyd-destunol ac astudiaethau heddwch.
Mae ei gwaith yn adeiladu dealltwriaeth newydd o botensial perfformio ar gyfer atgyweirio cymdeithasol, yn enwedig yn dilyn canlyniadau hil-laddiad, caethwasiaeth a gwladychiaeth. Cwblhaodd ei PhD yn ddiweddar yn y Centre for Trust, Peace, and Social Relations ym Mhrifysgol Coventry lle derbyniodd ysgoloriaeth United Nations Alliance of Civilizations. Hi yw aelod sefydlu a Chyfarwyddwr Artistig Migrant Artists Mutual Aid (MaMa). Mae hi’n aelod o’r Cylch Cynghori ar Berfformio Mamol, mae hi wedi ymuno â’r prosiect fel Cynorthwyydd Ymchwil i gefnogi datblygiad llyfr wedi’i olygu, ag enw cychwynnol Mothering: Processes, Practices and Performance. Ei chyfraniad yw ‘Maternal Performance as Peacebuilding’.