
Mae’r canlynol yn ddyfyniad o Manifesto for Maternal Performance (Art) 2016! a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr y project, Lena Šimić ac Emily Underwood-Lee (2017) ac a gyhoeddwyd yn Performance Research (22:4). Mae’n faniffesto ar gyfer perfformio mamol wedi ei eni o ymarfer, a chafodd y syniadau a rennir yma eu hesgor dros gyfnod o 40 diwrnod o gadw ac ysgrifennu dyddlyfr; methodoleg famol i adlewyrchu’r cyfnod o 40 wythnos y bydd mamau’r ddynol ryw yn cario eu plant.
Diwrnod 1a. Dylai perfformio mamol bob amser fod wedi’i eni o weithredu, o bosibilrwydd, o greu, o greadigrwydd. Dylai fod yn enedigol bob amser.
Diwrnod 1b. Rhaid i berfformio mamol fod yn gadarn ac yn ddewr; yn ein perfformiad mamol, rhaid inni beidio â chael ein harwain ar gyfeiliorn gan hunan-amheuaeth.
Diwrnod 1c. Rhaid i berfformio mamol gydnabod y personol a’r goddrychol i gyflwyno ymdeimlad dyfnach o brofiad byw.
Diwrnod 2. Mae perfformio mamol yn dibynnu ar yr arall.
Diwrnod 3a. Rhaid i berfformio mamol ganiatáu i ni greu a rhoi’r canlynol ar waith: ‘amser i ffwrdd’, ‘amser dim byd’, ‘amser i fi’, ‘dim amser’, ‘gwastraffu amser’, ‘amser nofio’, ‘amser darllen’, ‘amser ysgrifennu’, ‘amser dad-bacio’.
Diwrnod 3b. Rhaid i berfformio mamol wneud y brwydrau’n weledol.
Diwrnod 3c. Rhaid i berfformio mamol bryfocio.
Diwrnod 4a. Ni ddylai perfformio mamol anelu at fod yn hoffus. Dylai fod yn onest, yn garedig, yn ddewr a dylai siarad yn onest.
Diwrnod 4b. Rhaid i berfformio mamol ymwneud â manylion, â phleser ac â dwyn babanod ben bore, eu bachu o’u cotiau a’u gorchuddio â chusanau.
Diwrnod 4c. Rhaid i berfformio mamol greu amser.
Diwrnod 4d. Mae perfformio mamol yn amyneddgar, ond rhaid iddo weithredu ar sail reddfol a gafael yn y foment.
Diwrnod 4e. Mae perfformio mamol yn ein gwthio i fannau eraill.
Diwrnod 5. Mae perfformio mamol yn mynd y tu hwnt i’r dynol.
Diwrnod 6. Mae perfformio mamol yn digwydd yn y nos gyda ffrwydradau chwyd, pî pî a pŵ, gyda sgrechian ac ofn a boliau chwyddedig a thorri gwynt. Mae arogl ar berfformio mamol.
Diwrnod 7a. Mae perfformio mamol yn ymdrochol, yn digwydd ar unwaith, wastad yn gynhenid.
Diwrnod 7b. Mae perfformio mamol yn bwysig.
Diwrnod 8. Mae perfformio mamol yn caru.
Diwrnod 9. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 10. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 11. Rhaid i berfformio mamol greu gofod yn y theatr i groesawu plant.
Diwrnod 12. Rhaid i berfformio mamol roi’r fam ar ganol y llwyfan – rhaid archwilio ei chymhlethdod a rhoi ei realiti yn y blaen.
Diwrnod 13. Rhaid i berfformio ‘matternal’ [sic] lwyfannu rhyw fath o anwelededd, er budd yr arall, nid fel gweithred o aberth ond fel gweithred o haelioni.
Diwrnod 14. Mae perfformio mamol yn breifat; mae yna feddyliau, teimladau, gweithredoedd ac eiliadau rydyn ni’n dymuno eu cadw i ni ein hunain.
Diwrnod 15. Mae perfformio mamol yn ein galw i weithredu i’r eithaf, ond mae hefyd yn ein stopio’n ddisymwth. Mae’n beiriant gwthio a thynnu. Mae’n cellwair gyda ni. Mae’n ein hymestyn. Mae’n rhoi, ond yn dwyn ymaith hefyd.
Diwrnod 16. Mae perfformio mamol yn codi cywilydd ar ein plant.
Diwrnod 17a. Mae perfformio mamol yn golygu bod yn fodlon colli rheolaeth.
Diwrnod 17b. Mae perfformio mamol yn golygu gwrthdaro.
Diwrnod 18. Mae perfformio mamol yn synfyfyrio am fod yn ganol oed, am ddirywio a methu, ac am farwolaeth optimistiaeth.
Diwrnod 19a. Mae perfformio mamol yn ymwneud yn gyson â rheoli siom a disgwyliadau; mae yn y canol rhwng trafod a thrin; mae’n cynnwys pyliau o ddicter a rhwystredigaeth.
Diwrnod 19b. Mae perfformio mamol yn gynhenid ac yn gysefin – does dim byd goruwchnaturiol amdano.
Diwrnod 20. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 21a. Mae perfformio mamol yn llawn-amser ac yn oramser, yn ddi-baid ac yn ddi-ben-draw.
Diwrnod 21b. All perfformio mamol ddim creu’r cyfan na chyfannu na’i ddogfennu ei hun.
Diwrnod 21c. Mae perfformio mamol yn beiriant sydd â’i resymeg a’i ofynion ei hun.
Diwrnod 22. Mae perfformio mamol yn gwrthod.
Diwrnod 23. Mae perfformio mamol yn troi cynrychiolaeth yn weithred.
Diwrnod 24. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 25. Mae perfformio mamol yn herio’r hyn sy’n ddisgwyliedig.
Diwrnod 26. Mae perfformio mamol mewn cyflwr cyson o fod bron â chwalu.
Diwrnod 27a. Mae perfformio mamol yn creu’r ‘arall’.
Diwrnod 27b. Mae perfformio mamol yn gwneud safle cymdeithasol a sefydliadol y fam yn weladwy.
Diwrnod 28. Mae perfformio mamol yn dibynnu ar ein cyrff, nid yw’n annibynnol, nid yw’n cael ei ryddhau i’r byd hebddon ni.
Diwrnod 29. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 30. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 31. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 32. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 33. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 34a. Mae esgeulustod yn bwydo perfformio mamol.
Diwrnod 34b. Gall perfformio mamol, wedi ei greu ar gyfer ein plant a’n mamau, ac amdanyn nhw, wrthsefyll y drefn fel y mae a chynnig ffyrdd amgen o fod gyda’n gilydd.
Diwrnod 35. Mae perfformio mamol yn ffordd o dynnu sylw oddi ar rai pethau, yn ddihangfa angenrheidiol o’r beunyddiol. Ond mae’r dianc hwnnw yn gwaedu i’r beunyddiol, ac yn ei wneud yn ddefnyddiol.
Diwrnod 36a. Mae perfformio mamol yn mynd dros bethau dro ar ôl tro, rydyn ni’n ein hailadrodd ein hunain, yn ailadrodd ein mamau, a’n mamau ffeministaidd a’n mamau perfformio. Rhaid i ysbryd ein mamau a’n plant ein hanesmwytho. Rhaid inni ailadrodd gweithredoedd feunydd. Rhaid inni ail-greu dro ar ôl tro.
Diwrnod 36b. Rhaid i berfformio mamol fod yn y byd, rhaid i’n perfformio ein gwneud yn weladwy.
Diwrnod 37. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 38. Torrwyd ar draws.
Diwrnod 39. Mae perfformio mamol yn creu ei ddisgwrs ei hun ac yn datgelu ei fethodoleg.
Diwrnod 40. Mae perfformio mamol yn amlygu ac yn cofnodi.