18 Mai 2022, 4 – 7pm
Campws Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Stryd Adam, Caerdydd, CF24 2FN
Does dim tâl i ymuno â’r Symposiwm ond mae cadw lle’n hanfodol. Ewch i Eventbrite i gadw eich lle.
Gwyliwch ar Facebook yn Fyw.

Mae symposiwm Mamau Cyd-destunol yn dwyn ymarferwyr ac ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o’r meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, celfyddydau, astudiaethau perfformiad ac astudiaethau mamol ac mae’n cynnwys perfformiad gan y bardd blaenllaw o Gymru Rufus Mufasa a chyflwyniad allweddol gan Dr Rachael Owens.
Man cychwyn y symposiwm hwn yw’r cynnig nad yw bod yn fam yn rhywbeth sy’n bodoli ar ei ben ei hun a bod yn rhaid ei ystyried mewn perthynas â’r cyd-destunau y mae’n digwydd ynddynt. At hynny, gallwn ddysgu llawer am yr amodau rydyn ni’n famau ynddyn nhw drwy wrando ar straeon sydd wedi’u llunio gan artistiaid mewn perthynas â’u profiadau mamol. Bydd ein hamgylchiadau cymdeithasol, ariannol, gwleidyddol a materol bob amser yn ein galluogi i fod y mamau gorau y gallwn fod, neu ein hatal rhag gwneud hynny, ac eto mae model diffygiol yn ystyried mai cyfrifioldeb y fam yn unig yw rhoi gofal. Rydyn ni’n cynnig Mamau Cyd-destunol fel ffordd wahanol o ystyried gofal, fel cyfrifoldeb cymdeithasol a pherthnasol, ac i’n galluogi i glywed lleisiau’r rhai sy’n rhoi gofal mamol drwy’r perfformiadau, y straeon, a’r gweithiau celf maen nhw’n eu rhannu.
Mae Mamau Cyd-destunol yn digwydd fel rhan o brosiect Perfformio Mamol y mae ariannu hael gan yr AHRC wedi ei wneud yn bosibl, ac sydd dan ofal Dr Lena Šimić (Prifysgol Edge Hill), Dr Leah Salter (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg), a’r Athro Emily Underwood-Lee (Prifysgol De Cymru). Mae’n rhan o’r gyfres o ddigwyddiadau a chynadleddau, Adrodd Storïau am Iechyd, a rhaglen digwyddiadau ymchwil Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans.
4:00 | Croeso gan yr Athro Martin Stegall, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Phrofiad Myfyrwyr |
4.10 | Croeso gan Sally Lewis, Arweinydd Celf ac Iechyd a Rheolwr Portffolio Cyngor y Celfyddydau |
4:20 | Lansio canfyddiadau Perfformio Mamol, Dr Lena Šimić a’r Athro Emily Underwood-Lee, Perfformio Mamol |
4:35 | Perfformiad, Rufus Mufasa |
5:05 | ‘Symud y ‘bai’ – cyd-destun gwahaniaethu ym mywydau mamau ifanc’, Dr Rachael Owens, Prifysgol Durham |
5:35 | Egwyl |
5:45 | Trafodaeth dan gadeiryddiaeth Dr Leah Salter, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Rebecca Haycock, Prifysgol De Cymru. |
6:30 | Rhwydweithio |
7:00 | Diwedd |
Rufus Mufasa
Mae’r actifydd llenyddol Rufus Mufasa yn Ymarferydd Cyfranogol Arloesol, yn Awdur-Fardd-Rapiwr-Fam, yn Actifydd Llenyddol Rhyngwladol, yn Arbenigydd Cymunedol Rhyng-genedlaethau, yn Addysgydd Hip Hop, ac yn arbenigo mewn addysg amgen. Mae Rufus yn un o Awduron wrth eu Gwaith y Gelli Gandryll, yn cefnogi nifer o brosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau, yn mentora dynion yng Ngharchar y Parc ac mae’n trefnu ei phedwerydd ymweliad â’r Ffindir, lle bu’n arwain Gŵyl Lenyddiaeth Helsinki yn ddiweddar. Yn ogystal â bod yr artist cyntaf o Gymru i berfformio yng ngŵyl Ruisrock, mae hi’n mentora beirdd ‘beat’ y Ffindir, ac mae hi bellach yn ysgrifennu’n dairieithog yn sgil hyn. Mae wedi bod yn fardd preswyl yn BASW (2020), yn Fardd ar Bresgripsiwn People Speak Up (2021), ac wedi derbyn nawdd gan Llenyddiaeth Cymru a’r Coleg Seiciatreg Brenhinol (2021). Mae ei chasgliad barddoniaeth Flashbacks and Flowers (2021) wedi derbyn canmoliaeth helaeth gan feirniaid.
“Seinier yr utgyrn yn uchel a balch. Mae’r cerddi hyn, sy’n boenus o wir, wedi cyrraedd, yn waith bardd coeth ar gyfer y cyfnod anodd hwn, y mae ei dawn yn canu ac yn “plygu amser a lle”. Jon Gower
Rachael Owens
Mae Dr Rachael Owens wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros ugain mlynedd, gyda dulliau creadigol, gwirfoddol a chyfranogol wedi bod o ddiddordeb arbennig iddi. Mae wedi gweithio ym meysydd gofal iechyd, anabledd a chymorth teulu, ac wedi arbenigo mewn gweithio gyda’r glasoed. Mae hi wedi sefydlu a darparu gwasanaeth i bobl ifanc sy’n mynd ‘ar goll’; ac ar hyn o bryd mae’n Gynghorydd Ymarfer Gwaith Cymdeithasol i Raglen Diogelu Cyd-destunol Prifysgol Durham, lle mae’n ymwneud ag ymchwil gymhwysol gyda gweithwyr cymdeithasol sydd wedi ymrwymo i wella ymatebion i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan niwed y tu allan i’r teulu.
Mae gwaith Rachael yn cyfrannu at gorff mawr o waith sy’n beirniadu cydberthynas seml rhwng rhianta gan bobl ifanc a chanlyniadau gwael ac yn troi’r ffocws at yr angen am newid strwythurol a systemig (Duncan, 2007; Arai, 2009). Mae ei diddordeb mewn newid yr amgylchedd gelyniaethus a wynebir gan rieni ifanc wedi ei harwain i fyfyrio ar ddulliau cyfathrebu a lledaenu canfyddiadau ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae ei dulliau dadansoddol yn defnyddio’r Canllaw Gwrando (Gilligan, 2015) i greu ‘cerddi’ neu haniaethau o ddata cyfweliadau a grwpiau ffocws. Mae ganddi ddiddordeb ym mhotensial y cerddi hyn a’u pŵer i gyfathrebu mewn ffordd sy’n cael ei herio gan lwybrau academaidd traddodiadol. Mae Rachael wedi gosod rhai o’r cerddi hyn i gerddoriaeth ac mae ganddi ddiddordeb mewn archwilio eu potensial ar gyfer arallgyfeirio a beirniadu’r naratifau sy’n dominyddu maes rhianta gan bobl ifanc.