
Grŵp trafod wythnosol newydd ar gyfer artistiaid sy’n gweithio gyda’r famol, wedi tarddu o Brosiect Mothersuckers, MADE Caerdydd, a Phrosiect Ymchwil Perfformio a’r Famol.
I gadw lle ewch i Cardiff MADE Events | Eventbrite
Grŵp trafod newydd yw MA FAN, sy’n agored i bob artist sy’n gweithio gyda’r famol fel pwnc neu gylch gwaith o fewn eu hymarfer.
Y gobaith yw y gallwn, o fewn y ddeialog hon, ymgysylltu, rhannu gwybodaeth a’n cefnogi ein gilydd fel artistiaid, a darparu safbwyntiau unigol ac unigryw i’n gilydd ac er budd ymchwil academaidd ynghylch ymarfer celf famol.
Bydd pob dydd Mawrth yn canolbwyntio ar thema neu gwestiwn gwahanol, a bydd yn para hyd at 1.5 awr, dros 5 sesiwn wythnosol yn dechrau 27.04.21.
- Wythnos 1, 27.4.21: Covid a mamau/artistiaid: sut mae’r pandemig wedi effeithio ar amodau gwaith mamau/artistiaid?
- Wythnos 2, 4.5.21: Mamau, rhyngblethedd a gofal: sut y gallem ddeall gofal yng ngoleuni’r famol a’i ryngblethau (gan gynnwys anabledd, rhywedd, dosbarth a hil)?
- Wythnos 3, 11.5.21: Celf famol a’r domestig: sut mae’r domestig yn cael ei fynegi’n gynhyrchiol mewn celf famol? Sut y gallem lywio’r cartref fel man sy’n cyfyngu ac yn creu?
- Wythnos 4, 18.5.21: Creu celf a pholisi normal newydd: beth sydd ei angen o ran polisi a chyllid i liniaru ar gyfer y ‘normal newydd’ yr ydyn ni bellach yn creu celf oddi mewn iddo?
- Wythnos 5, 25.5.21: Celf famol ac amrywiaeth: sut y gallem reoli a chyfrannu at gynrychiolaethau amrywiol o’r fam?
Bydd y grwpiau wythnosol yn cael eu harwain gan yr artistiaid Zoë Gingell ac Eve Dent (a adnabyddir hefyd fel Prosiect Mothersuckers).
Mae cyfarfodydd FAN yn seiliedig ar barch, gwrando a siarad yn eich tro heb dorri ar draws, tan i bawb gael eu tro.
I gadw lle ewch i Cardiff MADE Events | Eventbrite
Prosiect Mothersuckers
Dechreuodd Prosiect Mothersuckers fel cydweithrediad rhwng yr artistiaid Zoë Gingell ac Eve Dent yn 2009; yn archwilio’r berthynas rhwng bod yn fam, bod yn rhiant a bod yn rhywun sy’n ymarfer celf, drwy sgwrsio, perfformio, curadu ac ymateb gweithredol drwy greu celf.
www.mothersuckersproject.blogspot.com
MADE Caerdydd
Mae MADE Caerdydd yn fenter gymdeithasol dan arweiniad artistiaid, sydd wedi bod yn hwyluso cyfleoedd i artistiaid newydd a sefydledig ers 2013. Yn ei hanfod, mae’n ceisio cyflawni rôl feithrin o fewn ei ardal a thu hwnt; yn cefnogi artistiaid a’u cysylltu â’i gilydd, gan ymestyn ffiniau eu hymarfer creadigol. Nod MADE yw tynnu sylw at lwybrau creadigol sy’n addysgu cynulleidfaoedd drwy ddulliau hygyrch a dychmygus ac sy’n rhoi cyfle i artistiaid ddatblygu prosiectau cydweithredol a chynulleidfaoedd newydd.
www.cardiffmade.com
Elusen FAN
Ffrindiau a Chymdogion FAN: Yn dod â phobl at ei gilydd i gwrdd, gwrando a siarad.
Mae FAN yn hyrwyddo cytgord crefyddol a hiliol drwy ddatblygu a chryfhau cysylltiadau da rhwng unigolion o bob oed, credo, hil a diwylliant, a thrwy hynny’n meithrin ysbryd o berthyn, cyd-ddeall a pharch ymhlith pobloedd y byd. Mae FAN yn cefnogi cyfarfodydd wythnosol yn ne Cymru a’r tu hwnt. Mae FAN yn ffordd gyfeillgar a hamddenol i bobl leol ac o bob cwr o’r byd gyfarfod, sgwrsio a gwrando ar ei gilydd. Rydym yn eistedd mewn cylch, neu’n cyfarfod ar Zoom, ac yn sôn am ein bywydau bob dydd, ein syniadau a’n profiadau.
http://www.thefancharity.org/
Prosiect ymchwil Perfformio a’r Famol
Mae’r prosiect hwn a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn gydweithrediad rhwng Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Edge Hill dan arweiniad Dr Emily Underwood-Lee a Dr Lena Šimić. Ceisio deall y cyflwr mamol yn well drwy astudio perfformio mamol yw diben y project hwn. Yn waelodol iddo mae ymchwilio i’r amodau y mae artistiaid sy’n famau yn gwneud gwaith oddi mewn iddynt a’r cyd-destunau y derbynnir y gwaith hwnnw ynddynt. Ein prif gwestiwn ymchwil yw: sut mae perfformio mamol yn ein helpu i ddeall y cyflwr o fyw fel mam?