Fforymau Mamol

*Mae pob dolen yn agor mewn ffenestr newydd 

YMGYSYLLTU…Trafodaethau wedi eu geni gan astudiaethau perfformio a’r famol

6 Hydref3 Tachwedd 2020
Pob dydd Mawrth 19:30-21:00

Bydd y gyfres hon o fforymau ar-lein yn ystyried, drwy wahanol safbwyntiau artistig ac academaidd, sut mae perfformio mamol yn ein helpu i ddeall cyflwr byw mamau. Bydd pob fforwm yn ymateb i bryfocio â thema (cwestiwn) a bydd panel o siaradwyr gwadd ynghyd â Sesiwn Holi ac Ateb. 

Dydd Mawrth 6 Hydref
Perfformio Mamol (Fforwm Artistiaid)

Mae cyswllt rhwng perfformio a’r famol gan eu bod yn arferion sy’n para am gyfnod penodol, yn rhai sydd wedi eu hymgorffori ac yn bodoli mewn perthynas ag eraill. Beth allai fod yn unigryw am estheteg perfformiadau mamol?

Siaradwyr: Dyana Gravina y Lynn Lu, Jodie Hawkes, Kristina Gavran y Tina Hofman (Notnow Collective), Ruchika Wason Singh

CRYNODEBAU
DOGFENNAETH

Dydd Mawrth 13 Hydref
Adrodd storïau a Mamau

Pa naratifau mamol y gallai fod eisiau neu angen i ni eu hadrodd a’u clywed yn y cyfnod rydyn ni’n byw ynddo? Sut gallwn ni gynrychioli amrywiaeth profiadau mamau?

Siaradwyr: Laura Godfrey-Isaacs, Tracy Breathnach-Evans, Roiyah Saltus, Christine Watkins, Alison Perry, Zoe Brigley and Jude Brigley

CRYNODEBAU
DOGFENNAETH

Dydd Mawrth 20 Hydref
Diwylliant Perfformio, Rhywedd a’r Famol yn y Dyfodol

Sut gallai tueddiad at y famol ein helpu i ailddychmygyu’r dyfodol? Pa ddyfodol mamol rydyn ni am ei greu?

Siaradwyr: Ben Spatz, Rosemary Lee, Hannah Davey (Liberate Tate), Natalie Loveless and Sheena Wilson, prOphecy sun, Chantal Bilodeau

CRYNODEBAU
DOGFENNAETH

Dydd Mawrth 27 Hydref
Mudo a Dinasyddiaeth (Mamau) mewn Perfformiadau

Sut gall y famol fudo, croesi ffiniau a’n galluogi i feddwl mewn ffordd fyd-eang gyda chyfrifoldeb a gofal dros ein gilydd? Ydy hi’n bosibl rhagweld dinasyddiaeth famol?

Siaradwyr: Elena Marchevska, Jennifer Verson, Umut Erel, Jina Valentine, Sara C Motta

CRYNODEBAU
DOGFENNAETH

Dydd Mawrth 3 Tachwedd
Iechyd, Polisi ac Effaith – Materion Perfformio Mamol

Beth yw’r cwestiynau pwysicaf o ran iechyd a pholisi mamol? Sut gall perfformio ein helpu i ystyried y cwestiynau hynny?

Siaradwyr: Prue Thimbleby, Helena Walsh, Vicky Karkou and Emma Perris, Michelle Hartney, Leah Salter

CRYNODEBAU
DOGFENNAETH