Effaith

Drwy fynd ati i rannu a hyrwyddo canfyddiadau’r ymchwil y tu hwnt i’r byd academaidd gyda’r rhai sy’n gallu gwneud newidiadau ar lefel sylweddol, byddwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd y caiff menywod eu cynorthwyo i gyflawni eu gweithgareddau mamol o ddydd i ddydd.

Prosiect Ymchwil ‘Perfformio Mamol’ – Briffiad Polisi

Bydd y project hwn yn cael effaith ar dri maes allweddol: diwylliant, dealltwriaeth, a pholisi ac ymarfer. Y grwpiau allweddol fydd yn elwa o’r ymchwil yw mamau/artistiaid, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol â chyfrifoldeb dros gefnogi’r rhai sy’n darparu gofal mamol, a llunwyr polisi y mae eu brîff yn cynnwys y celfyddydau, iechyd a gofal cymdeithasol, menywod a chydraddoldeb.

Diwylliant
Bydd mamau/artistiaid yn canfod cymuned ac yn derbyn mwy o gydnabyddiaeth am eu gwaith, gan unioni’r bwlch mamol mewn rhaglenni celfyddydol sy’n bodoli ar hyn o bryd. Bydd cydnabyddiaeth academaidd i waith mamau/artistiaid yn rhoi amlygrwydd i’r artistiaid hyn ac yn effeithio ar eu gyrfa a’u datblygiad artistig.

Dealltwriaeth
Bydd yr ymchwil yn archwilio sut y gellir cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r profiad mamol drwy archwilio’r famol fel y’i cynrychiolir mewn perfformiad.

Polisi ac Ymarfer
Byddwn yn creu cyfleoedd ar gyfer rhannu trawsddisgyblaethol a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ymarfer clinigol drwy well dealltwriaeth. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar waith ymarferwyr celf sy’n gallu datblygu eu harferion eu hunain mewn perthynas â chyfarfyddiadau mewn lleoliadau gofal iechyd.