Cylch Cynghori

Yn ganolog i weledigaeth a threfn lywodraethu’r project mae cylch o weithwyr proffesiynol bywiog, sy’n ymwneud yn gritigol â’n hastudiaethau mamol ac sy’n uniaethu fel pobl â chysylltiad o ryw fath â’r maes hwnnw. Ein dymuniad yw bod y Cylch Cynghori yn ymuno â ni i greu gofod rhyngddisgyblaethol ac agored lle byddwn, ar y cyd, yn trafod, yn archwilio ac yn cyfnewid syniadau am yr hyn y gallai astudiaeth o berfformio a’r famol ei gynnig i’n safbwyntiau yn ein meysydd neu broffesiynau. Mae’n gwneud mwy na llywodraethu’n unig felly.  Yn hyn o beth, mae’r Cylch Cynghori yn rhan annatod o’r ymchwil ac yn adlewyrchu methodoleg lle mae cyfarfyddiadau cilyddol (pobl bob amser mewn perthynas â’i gilydd) yn cael eu gwerthfawrogi’n gadarnhaol fel moeseg famol, a’u gosod wrth galon ein dysgu a’n dealltwriaeth.

Aelodau’r Cylch Cynghori: