
Geni taith greadigol
Ceisio deall y cyflwr mamol yn well drwy astudio perfformio mamol yw diben y project hwn. Yn waelodol iddo mae ymchwilio i’r amodau y mae artistiaid sy’n famau yn gwneud gwaith oddi mewn iddynt a’r cyd-destunau y derbynnir y gwaith hwnnw ynddynt.
Ein prif gwestiwn ymchwil yw:
Sut mae perfformio mamol yn ein helpu i ddeall y cyflwr o fyw fel mam?
Yn dilyn hyn, daw nifer o gwestiynau ymchwil eilaidd i’r amlwg:
- Pa brosesau, strategaethau a dulliau a ddefnyddir gan ymarferwyr perfformio a mamau/artistiaid sy’n gweithio gyda themâu mamol mewn gwahanol gyd-destunau rhyngwladol ?
- Beth yw cyd-destunau ac amgylcheddau’r celfyddydau mamol ar hyn o bryd?
- Pa fath o rwydweithiau celf famol sy’n bodoli?
- Beth yw hanes y berthynas rhwng bod yn fam a ffeministiaeth?
- Beth sy’n hynod am berfformio mamol, yn wahanol i ffurfiau eraill ar gelfyddyd?
- Sut caiff deuad bywyd mamol/celf ei lywio gan arferion perfformio a theori?
- Sut mae goddrychedd mamol yn cael ei fframio yn y ddwy gynrychiolaeth – bod yn fam a derbyn gofal mamol?
- Beth gall ymdeimlad o oddrychedd mamol ei gynnig mewn profiadau perfformiadol?
- Ym mha ffyrdd y mae’n bosibl mynd at yr ‘arall’, astudio ‘alltudiaeth’ ac ymgysylltu â materolrwydd celf drwy synwyrusrwydd mamol?
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn dechrau twrio i’r cwestiynu hyn a chynnig mewnwelediadau iddynt, yn gwahodd sgyrsiau rhyngddisgyblaethol rhwng ysgolheigion perfformio, artistiaid ac ymarferwyr, yn ogystal ag unigolion sy’n gweithio ym maes gofal iechyd a pholisi, ac eraill a allai fod yn ymwneud â’r ‘proffesiynau gofal’.
Bydd yr ymchwil yn cael ei datblygu a’i lledaenu drwy gyfweliadau â’r fam/artist, trefnu digwyddiadau ar-lein gan gynnwys fforymau a gweithdai, cyflwyno papurau mewn cynadleddau rhyngwladol, monograff a ysgrifennwyd ar y cyd ar berfformiad mamol a briffio polisi.