Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac fe’i cynhelir gan ddwy brifysgol – Prifysgol De Cymru (Caerdydd) a Phrifysgol Edge Hill (Ormskirk). Cynhelir yr ymchwil gan Brif-Ymchwilydd a Chyd-ydd, ynghyd â chynorthwyydd ymchwil, sydd i gyd yn artistiaid/academyddion â diddordebau ymchwil mewn astudiaethau mamol a pherfformio. Mae Cylch Cynghori, sy’n cynnwys tîm o weithwyr proffesiynol y mae eu gwaith yn ymwneud â materion mamol, yn lledaenu’r ffocws academaidd i sicrhau ymgysylltiad rhyngddisgyblaethol.