Croeso

Croeso i Perfformio a’r Famol, project ymchwil wedi ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a dan arweiniad Prifysgol De Cymru (Caerdydd) a Phrifysgol Edge Hill (Ormskirk).

Bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal rhwng Tachwedd 2019 a Mai 2021. Wedi hynny, bydd y wefan hon yn parhau i fod yn adnodd astudiaethau mamol i bawb – gwaddol archifol y gwaith.